Sara Lewis

Sara Lewis

Galwad i’r bar: 
2013
Lincoln’s Inn
01792 464623

Ymunodd Sara â’r siambrau fel tenant yn 2014, ar ôl cwblhau ei thymor prawf yn llwyddiannus dan oruchwyliaeth Geraint Walters (Trosedd) ac Alison Donovan (Teulu). Galwyd Sara i’r bar gan Lincoln’s Inn yn 2013.

Cyn dechrau ar ei thymor prawf, gweithiodd Sara fel paragyfreithiol mewn cwmni cyfraith niwed personol yng Nghaerdydd.

Mae Sara bellach yn mwynhau ymarfer eang, gan gymryd achosion teuluol, yn gyhoeddus a phreifat, achosion troseddol yn Llys y Goron a’r Llys Ynadon yn ogystal â gwaith sifil a rheoleiddiol.

Meysydd ymarfer

Cyfraith teulu

Mae gan Sara ymarfer cyfraith teulu prysur, gan dderbyn cyfarwyddiadau mewn trefniadau cyfraith breifat a chyhoeddus. Yn aml, mae Sara o flaen y llys teuluol ond mae hefyd wedi cynrychioli Mam, a fu’n ymgyfreithwraig drosti’i hun wrth apelio’n llwyddiannus i Farnwr Cylchdaith. Mynega Sara ddiddordeb yng ngwaith y llys amddiffyn ar ôl cymryd rhan mewn rhoi hyfforddiant i Gyngor Sir Abertawe a derbynia gyfarwyddyd yn y maes hwn.

Caiff Sara gyfarwyddyd yn bennaf mewn achosion cyfraith teulu preifat ac felly mae ganddi gyfoeth o brofiad mewn cynrychioli Mamau a Thadau fel ymgeiswyr ac ymatebwyr. Yn ogystal, mae Sara’n delio â cheisiadau peidio ag ymyrryd.

Cyfraith trosedd

Mae Sara’n ymarfer cyfraith trosedd yn Llys y Goron a’r Llys Ynadon. Mae Sara wedi cynnal achosion prawf o flaen rheithgor yn Llys y Goron ar sawl achlysur i Wasanaeth Erlyn y Goron ac i’r diffynyddion.

Mae Sara wedi erlyn sawl achos prawf i Wasanaeth Erlyn y Goron yn y Llys Ynadon ac wedi amddiffyn cleientiaid sydd wedi’u cyhuddo o ymosodiad cyffredin, lladrad ac aflonyddwch. Mae Sara wedi amddiffyn gweithiwr gofal iechyd yn flaenorol a gafodd ei gyhuddo o ymosod ar glaf yn ei ofal. Ar ôl achos prawf llwyddiannus, cafwyd y diffynnydd yn ddieuog.

Mae Sara yn Erlynydd Gradd 1 ar banel Gwasanaeth Erlyn y Goron

Cyfraith sifil

Cyfraith reoleiddiol

Caiff Sara gyfarwyddyd rheolaidd i ymddangos o flaen paneli disgyblu NMC a HCPC. Mae Sara wedi cynrychioli parafeddygon, ymwelwyr iechyd a nyrsys wedi’u cyhuddo o amrywiaeth o honiadau yn amrywio o wallau meddyginiaeth i faterion galluedd. Mae Sara hefyd yn cynryshioli Cyngor y Gweithlu Addysg mewn gwrandawiadau cymhwyster i ymarfer.

Ymchwiliadau

Caiff Sara gyfarwyddyd yn aml i ymddangos ar ran partïon cyfrannog mewn cwestau, yn Abertawe a thu hwnt ac mae ganddi brofiad o gynrychioli teuluoedd yr ymadawedig a’r heddlu.

Aelodaeth 
  • Cymdeithas Cyfraith Teulu’r Bar
  • Cymdeithas y Bar Troseddol
  • Cylchdaith Cymru a Chaer
Addysg 
  • Prifysgol Caerdydd – gradd anrhydedd 2:1
  • Cwrs Cyfreithiol Proffesiynol y Bar yn Ysgol y Gyfraith Kaplan – Hyfedr Iawn