Iain Alba

Galwad i’r bar: 
2006
Y Deml Fewnol
01792 464623

Ymunodd Iain â’r Siambrau fel tenant yn 2017. Cyn ymuno, cafodd nifer o flynyddoedd o ymarfer yn y bar gyda siambrau eraill ac fel twrnai mewnol mewn dau awdurdod lleol yn Ne Cymru – mae’n arbenigo mewn Cyfraith Teulu.

Mae ganddo brofiad arbennig o ymddangos o flaen beirniaid Cylchdaith, yr Uchel Lys, a’r Llys Apêl ar achosion teuluol pwysig. Yn ogystal, mae Iain wedi cofrestru gyda Chyngor y Bar i dderbyn cyfarwyddiadau’n uniongyrchol gan y cyhoedd.

Meysydd ymarfer

Cyfraith teulu

Cyfraith breifat

Mae gan Iain ymarfer cyfraith breifat sy’n tyfu ac mae wedi cynrychioli mamau, tadau a neiniau a theidiau mewn achosion am gyswllt a phreswylio. Gyda’i brofiad yn gweithio mewn Awdurdodau Lleol, yn aml iawn, gall Iain awgrymu cefnogaeth ac atebion i achosion sydd fel arall yn anodd. Yn aml, mae Iain yn delio ag achosion cyfraith breifat cymhleth, gan gynnwys gwrandawiadau canfod ffeithiau dros sawl diwrnod ac achosion gyda honiadau o drais yn y cartref a cham-drin rhywiol.

Gall Iain ymgymryd ag achosion cyfraith breifat ar sail mynediad cyhoeddus/uniongyrchol ac mae ganddo brofiad eang, gan gynnwys sawl ymddangosiad yn y llys apêl.

Cyfraith gyhoeddus

Mae Iain wedi gweithio i’r ddau Awdurdod Lleol ac i rieni mewn achosion gofal, sy’n cynnwys esgeulustod, cam-drin rhywiol ac achosion o anafiadau heb fod yn ddamweiniol. Mae wedi delio â cheisiadau brys yn ogystal ag achosion cyn iddynt gael eu cyhoeddi, er enghraifft mewn cyfarfodydd cyn achosion. Gan ei fod wedi ennill cryn dipyn o brofiad yn gweithio i Awdurdodau Lleol, mae Iain yn gyfarwydd â’r prosesau a’r gweithdrefnau yn y Gwasanaethau Cymdeithasol a gall yn aml awgrymu dulliau newydd o droi at achosion i weddu i’w gleientiaid. Mae Iain yn derbyn cyfarwyddiadau gan rieni, awdurdodau lleol a gwarcheidwaid plant.

Mae ganddo ddiddordeb penodol mewn achosion gydag elfen ryngwladol; gan gynnwys rhoi cyngor ar faterion lle nad yw pobl yn atebol am arian cyhoeddus. Mae Iain wedi ymdrin â nifer o geisiadau gofal mewn perthynas â gwladolion tramor sy’n byw yn y DU. Mae hefyd wedi cynghori ar faterion ymarferol o ran y berthynas rhwng llysoedd teulu a thribiwnlysoedd mewnfudo. Mae Iain wedi ymdrin ag achosion llety diogel, fel hyrwyddwr ac fel aelod o baneli adolygu llety diogel.

Ymhlith yr achosion nodedig mae:

  • KS v Cyngor Bwrdeistref Castell-nedd Port Talbot [2014] EWCA 941
  • Re: T-S (Children) [2019] EWCA Civ 742

Cyllid Teuluol gan gynnwys TOLATA a chynnal a chadw

Mae gan Iain ymarfer sy’n tyfu mewn materion ariannol, gan gynnwys cynghori a gweithredu mewn achosion gydag elfennau rhyngwladol. Mae Iain yn eiriolwr trwyadl a diwyd a all ddadansoddi ystodau mawr o ddogfennau gan gynnwys cyfriflenni banc a rhoi egwyddorion cyfreithiol ar waith. Mae Iain yn drafodwr teg a phrofiadol, sy’n gweithio’n galed bob amser i gyflawni nodau ei gleientiaid.

Llys amddiffyn

Mae gan Iain hanes hir o weithio gyda phobl gydag anawsterau dysgu a phroblemau iechyd meddwl, gan gynnwys cynghori a gweithredu dros Awdurdodau Lleol mewn perthynas ag oedolion priodol a threfniadau diogelu rhag colli rhyddid.

Aelodaeth 
  • Cymdeithas Bar y Gyfraith Teulu
Addysg 
  • Prifysgol Cymru Aberystwyth
  • Inns of Court School of Law