Glenda Owen

Glenda Owen

Galwad i’r bar: 
2002
Gray’s Inn
01792 464623
Mae’n cynnal achosion yn y Gymraeg a’r Saesneg

Mae Glenda’n Ymarferwr Teulu arbenigol gyda thros 14 o flynyddoedd o brofiad mewn achosion Deddf Plant Cyfraith Gyhoeddus a Phreifat

Galwyd Glenda i’r Bar yn 2002 ac ymunodd â Siambrau yn 2003, ar ôl cwblhau ei thymor prawf yn llwyddiannus.

Meysydd ymarfer

Cyfraith teulu

Mae Glenda wedi datblygu ymarfer prysur a llwyddiannus ar draws De, Dwyrain a Gorllewin Cymru a chaiff gyfarwyddyd cyson ym mhob agwedd ar waith Cyfraith Gyhoeddus a Phreifat.

Yn ogystal, mae Glenda’n ymgymryd â gwaith dan y Ddeddf Cyfraith Teulu am ryddhad gwaharddol, gan gynnwys ceisiadau am orchmynion peidio ag ymyrryd a meddiannaeth.

Mae Glenda’n ymgymryd â gwaith ym mhob haen o’r Llys Teuluol ac mae hi wedi ymddangos yn yr Uchel Lys a’r Llys Apêl.

Mae Glenda’n rhugl yn y Gymraeg ac mae ganddi brofiad o gynnal achosion yn y Gymraeg.

Cyhoeddus

Mae ymarfer Cyfraith Gyhoeddus Glenda’n cynnwys achosion gofal a lleoliad, gan gynnwys achosion lle mae honiadau difrifol o gamdriniaeth, gan gynnwys anafiadau heb fod yn ddamweiniol ac achosion lle mae tystiolaeth feddygol gymhleth. Cafodd Glenda gyfarwyddyd hefyd mewn ceisiadau i ryddhau gorchmynion gofal a cheisiadau mabwysiadu.

Preifat

Mae ymarfer Cyfraith Breifat Glenda’n cynnwys pob agwedd ar geisiadau trefniant plant, ceisiadau materion penodol a chamau gwaharddedig. Mae Glenda hefyd yn delio â cheisiadau am warchodaeth arbennig, achosion lle’r oedd symud o fewn awdurdodaeth Cymru a Lloegr yn Cael eu hystyried ac achosion symud y tu allan i’r awdurdodaeth.

Aelodaeth 
  • Cymdeithas Cyfraith Teulu’r Bar
  • Cymdeithas Cyfraith Gyhoeddus a Hawliau Dynol Cymru.
  • Cylchdaith Cymru a Chaer
Addysg 
  • LLB (Anrhydedd) (Cymru)
  • LLM (Prifysgol Bryste)