Dominic Boothroyd

Dominic Boothroyd

Galwad i’r bar: 
1991
Y Deml Fewnol
01792 464623

Ar ôl tymor prawf sifil, ymunais â siambrau Gŵyr lle gwneuthum ymarfer mewn niwed personol a gwaith masnachol cyffredinol.

Yn 2001, gadewais ymarfer preifat i gymryd swydd fel Cwnsler mewnol gyda chwmni cyfreithwyr cyn symud i fod yn bennaeth Cyfreithiol i un o awdurdodau lleol mwyaf Cymru. Dychwelais i’r bar annibynnol yn 2006.

Meysydd ymarfer

Cyfraith teulu

Cyfraith Teulu Cyhoeddus

Bu fy mhrif faes ymarfer dros y 15 mlynedd diwethaf mewn cyfraith teulu cyhoeddus. Rwy’n cynrychioli rhieni, gwarcheidwaid ac awdurdodau lleol yn gyson yn yr achosion mwyaf difrifol. Rydw i wedi ymdrin (ar gyfer rhieni a’r awdurdod lleol) ag achosion yn ymwneud â niwed corfforol a rhywiol difrifol gan gynnwys achosion lle mae plentyn wedi marw. Rydw i wedi ymgymryd â chyfreithiad cymhleth rhwng sawl parti lle bu mwy nag un awdurdod lleol ynghlwm.

Rydw i wedi cymryd rhan wrth ddrafftio polisïau a dogfennaeth weithredol awdurdodau lleol mewn perthynas â’r gyfundrefn statudol sydd bellach mewn grym yng Nghymru. Rwy’n darlithio’n gyson ar bob agwedd ar gyfraith plant cyhoeddus.

Cyfraith Teulu Rhyngwladol

Rydw i’n aml yn cymryd achosion sy’n cynnwys materion cymhleth yn ymwneud ag agweddau rhyngwladol ar gyfraith teulu. Mae’r rhain wedi cynnwys ceisiadau dan rwymau cytundebol y tu mewn a’r tu allan i’r Gymuned Ewropeaidd. Mae gennyf brofiad helaeth o ddelio ag achosion sy’n ymwneud â Dwyrain Ewrop, Rwsia a’r Unol Daleithiau.

Cyfraith sifil

 

Niwed personol

Rydw i wedi ymddangos yn yr ystod lawn o achosion niwed personol o’r achosion anafiadau traffig ffordd mân iawn i’r achosion o anafiadau trychinebus arwyddocaol iawn. Rydw i wrthi’n ymgymryd â nifer gyfyngedig o achosion anafiadau personol ar lefel trac cyflym ac amryfal. Rwy’n ymgymryd â gwaith ar sail CFA/ATE.

Rheoleiddiol

Rydw i wedi ymddangos mewn nifer o achosion rheoleiddiol sy’n cynnwys achosion disgyblu cyfreithwyr, achosion nyrsio a bydwreigiaeth a’r cyngor meddygol cyffredinol. Mae’r rhain wedi cynnwys yr ystod lawn o honiadau gan gynnwys y rhai o’r difrifoldeb pennaf.

Y Llys Gweinyddol

Rwy’n ymddangos yn y llys gweinyddol yn rheolaidd ac mae gennyf brofiad sylweddol wrth ddrafftio ceisiadau am adolygiad barnwrol. Roedd a wnelo’r rhain yn bennaf â materion yn codi o gyfraith llywodraeth leol ac mewn cysylltiad â dyletswyddau statudol yn ymwneud â phlant ac oedolion dan anabledd.

Aelodaeth 
  • Cymdeithas Cyfraith Teulu’r Bar
  • Pwyllgor Hawliau Dynol y Bar
  • Cylchdaith Cymru a Chaer
Addysg 
  • LLb (Anrhydedd)
  • ACIArb