Patrick Llewelyn

Patrick Llewelyn

Galwad i’r bar: 
2009
Y Deml Fewnol
01792 464623

Ymunodd Patrick â’r siambrau ym mis Mawrth 2012 ac mae wedi ymddangos yn llwyddiannus mewn nifer fawr o lysoedd a thribiwnlysoedd Cymru a Lloegr, hyd at a chan gynnwys, y Llys Apêl. Mae ganddo bractis arbenigol yng nghyfraith plant. Trwy gynrychioli gweithwyr cymdeithasol mewn achosion disgyblu, mae wedi datblygu practis disgyblu a rheoleiddio hefyd sy’n gweithredu dros reoleiddwyr a’r sawl a reoleiddir ym meysydd gofal iechyd, addysg a gwaith cymdeithasol. Mae’n gwneud rhywfaint o waith sifil cyffredinol hefyd.

Meysydd ymarfer

Cyfraith teulu

Mae Patrick yn derbyn cyfarwyddiadau mewn achosion cyfraith plant cyhoeddus a phreifat. Mae wedi cynrychioli rhieni, gwarcheidwaid, ymyrwyr ac awdurdodau lleol hyd at a chan gynnwys mewn gwrandawiadau terfynol. Mae ganddo brofiad mewn achosion o’r difrifoldeb pennaf gan gynnwys dieithrio plentyn wrth riant, symud plentyn o’r awdurdodaeth, anafiadau a achoswyd, camdriniaeth rywiol a ffug feichiogrwydd.

Cyfraith sifil

Rheoleiddiol

Mae Patrick wedi ymddangos mewn nifer o dribiwnlysoedd rheoleiddiol gan gynnwys yr NMC a’r HCPC.

Yn y sector addysgu, mae wedi ymddangos gerbron Panel Ymddygiad Proffesiynol y Coleg Cenedlaethol Addysgu ac Arweinyddiaeth (NCTL), yn ogystal â Phwyllgor Cymhwyster i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg.

Yn 2017, cynrychiolodd Patrick ‘uwch-bennaeth’ ffederasiwn o ysgolion uchel ei broffil mewn achos deng niwrnod o hyd oedd yn cynnwys honiadau o ddarpariaeth annigonol i ddisgyblion AAA, toriadau iechyd a diogelwch, bwlio a chamymddwyn mewn arholiadau.

Yn fwy diweddar, canolbwyntiodd practis Patrick ar gyflwyno achosion i Gyngor y Gweithlu Addysg. Roedd yr achosion hyn yn cynnwys honiadau o anonestrwydd, ymosodiad, twyll a chamymddygiad rhywiol, ymhlith pethau eraill.

Eisteddodd Patrick fel ymgynghorydd cyfreithiol annibynnol ar banelau apêl derbyn i ysgolion hefyd.

Penodiadau 

Pwyllgor Tymor Prawf

Aelodaeth 
  • Cymdeithas Cyfraith Teulu’r Bar
  • Pwyllgor Hawliau Dynol y Bar
  • Cymdeithas Twrneiod Rheoleiddiol a Disgyblu
Addysg 
  • BSc Econ (Anrhydedd)
  • Diploma Graddedig yn y Gyfraith
  • Cwrs Galwedigaethol y Bar