Jessica Williams

Jessica Williams

Galwad i’r bar: 
2013
Lincoln's Inn

Ymunodd Jessica â’r Siambrau fel tenant yn 2017 wedi iddi gwblhau tymor prawf llwyddiannus dan oruchwyliaeth Dyfed Thomas (Trosedd) a Matthew Rees (Teulu).

Cyn dechrau’r tymor prawf, gweithiodd Jessica fel Cynorthwyydd Cyfreitha ac Eiriolwr mewn cwmni Cyfreithwyr yn ardal Gwent. Gweithiodd Jessica mewn ystod eang o adrannau gan gynnwys teulu a gofal, masnachol, anafiadau personol, esgeulustod clinigol a datrys anghydfodau. Roedd yr adran datrys anghydfodau’n cwmpasu nawdd cymdeithasol a materion landlordiaid a thenantiaid, casglu dyledion, camau yn erbyn yr heddlu, anghydfodau ynghylch ffiniau a gorfodaeth. Rhannwyd ei dyletswyddau rhwng eiriolaeth a chynorthwyo mewn materion sy’n cael eu hymladd ac nad ydynt yn cael eu hymladd sy’n golygu drafftio cyngor a phlediadau.

Mae gan Jessica bellach ymarfer eang gan dderbyn cyfarwyddiadau mewn materion plant cyfraith breifat a chyfraith gyhoeddus, llareiddiad ategol, hawliadau bychain, hawliadau dull carlam, achosion erlyn ac amddiffyn ac anafiadau personol a materion sifil eraill.

 

Meysydd ymarfer

Cyfraith teulu

Preifat: Plant

Cynrychiola Jessica Ymgeiswyr ac Ymatebwyr ill dau o flaen pob lefel o’r Fainc yn y llys sirol ym mhob cam o achosion cyfraith breifat. Mae Jessica wedi cynrychioli cleientiaid mewn perthynas â chymodi, gwrandawiadau cyfarwyddo, apwyntiadau datrys anghydfodau, achosion gorfodi, gorchmynion cyflwyno plentyn a gwrandawiadau terfynol mewn perthynas â Gorchmynion byw gydag a threulio amser gyda. At hynny, cynrychiola Jessica gleientiaid mewn perthynas â gorchmynion rhag molestu ar sail gyda rhybudd a heb rybudd.

Mewn Gwrandawiad Terfynol o ddeuddydd, cynrychiolodd Jessica Mam Ymatebol lle’r oedd ei phlant yn byw gyda hi. Roedd y Tad Ymgeisiol yn gofyn am orchymyn byw gyda, ac roedd yr adroddiad adran 7 a roddwyd at ei gilydd gan y gweithiwr cymdeithasol yn argymell hynny hefyd. Roedd yr adroddiad yn annigonol o wrth ystyried cysylltiad y brodyr a chwiorydd ac elfennau cadarnhaol rhianta’r Fam Ymatebol yn llawn ac, felly, cynhaliodd Jessica  groesholiad cymhleth a helaeth o’r gweithiwr cymdeithasol a’r rheolwr tîm.

Cyhoeddus: Plant

Cynrychiola Jessica’r Awdurdod Lleol, yr Ymatebwyr a’r Gwarcheidwad mewn amrywiaeth eang o faterion cyfraith gyhoeddus gan gynnwys ceisiadau am orchymyn gofal dros dro mewn sefyllfaoedd argyfyngus a heb fod yn argyfyngus, gwrandawiadau rheoli achosion, ceisiadau C2, ceisiadau Rhan 25, gwrandawiadau datrys materion a gwrandawiadau terfynol. Mae Jessica wedi ymddangos o flaen pob lefel o’r Fainc yn y llys sirol ac wedi ymdrin ag amrywiaeth o broblemau sy’n codi yn ystod y materion hynny gan gynnwys trothwy, gwahanu, esgeulustod, anaf heb fod yn ddamweiniol, pryderon mewn perthynas â chynlluniau gofal dros dro a therfynol, gorchmynion gwarchodaeth arbennig, gorchmynion goruchwyliaeth, gorchmynion gofal a lleoliad. At hynny, mae Jessica wedi cynrychioli partïon mewn perthynas â cheisiadau am ganiatâd i wneud cais i’r llys dan adran 10(9) Deddf Plant 1989. At hynny, mae Jessica’n darparu cyngor ysgrifenedig ar y materion hynny. Yr un diweddaraf oedd rhoi cyngor i Warcheidwad plant mewn perthynas â throsglwyddo gorchymyn gofal o un Awdurdod Lleol i un arall.

Yn ddiweddar, cynrychiolodd Jessica Fam Ymatebol mewn gwrandawiad datrys materion a oedd heb gyflwyno’i thystiolaeth derfynol yn sgil methiant i ymgysylltu. Cymerodd Jessica gyfarwyddiadau manwl adeg yr asesiad rhianta a thystiolaeth derfynol yr Awdurdod Lleol er mwyn darparu datganiad wedi’i ysgrifennu â llaw yn ymdrin â sefyllfa’r Fam Ymatebol wrth ddrws y llys. Wedi hynny, roedd y Barnwr yn agored i dystiolaeth bellach gael ei chyflwyno o ran elfennau penodol achos yr Awdurdod Lleol a oedd yn parhau i gael ei herio yn y gwrandawiad terfynol.

Llareiddiad Ategol

Cynrychiola Jessica Ymgeiswyr ac Ymatebwyr mewn perthynas â materion ategol ym mhob cam mewn achosion gan gynnwys apwyntiadau cyfarwyddiadau cyntaf, gwrandawiadau datrys anghydfodau ariannol a gwrandawiadau terfynol. Mae Jessica wedi paratoi datganiadau o faterion, cronolegau a chrynodebau achosion wrth baratoi ar gyfer y gwrandawiadau uchod.

Yn ddiweddar, cynrychiolodd Jessica Wraig Ymgeisiol mewn apwyntiad cyfarwyddiadau cyntaf mewn achos lle, wrth wahanu pum mlynedd ynghynt, cafodd mwyafrif yr asedau priodasol eu rhannu y tu allan i’r llys. Rhannwyd yr asedau priodasol yn anghyfartal o blaid y Wraig Ymgeisiol. Roedd yr asedau priodasol hyn yn cynnwys yr hen gartref priodasol, celfi a’r ddau gwmni oedd yn bodoli tan iddynt wahanu. Ymhlith yr asedau priodasol oedd heb eu rhannu eto oedd pensiynau’r Gŵr Ymatebol. Y broblem anodd i’r partïon a’r llys oedd sut i ddelio’n briodol â rhannu’r asedau i ddechrau o gofio safbwyntiau croes y partïon mewn perthynas â’r rheswm am yr anghyfartaledd. Roedd angen cyflwyniadau manwl er mwyn deall sefyllfaoedd y partïon yn llawn ac roedd angen cyfarwyddiadau gofalus er mwyn sicrhau bod cymaint o ddogfennaeth â phosibl ar gael ar gyfer y gwrandawiad datrys anghydfod ariannol y tro nesaf.

Cyfraith trosedd

Cynrychiola Jessica’r Erlyniad a’r Amddiffyniad yn y Llys Ynadon a’r Goron o flaen pob lefel o’r Fainc. Mae Jessica wedi cynrychioli’r Erlyniad a’r Amddiffyniad yn y Llys Ynadon mewn perthynas â dedfrydu, ceisiadau am fechnïaeth, gwrandawiadau rheoli achosion, adolygiadau cyn treial, treialon pwnc dadl a threialon yng Nghasnewydd, Caerdydd, Merthyr Tudful, Abertawe, Llanelli, Hwlffordd a Llandrindod. Mae Jessica wedi cynrychioli’r Erlyniad a’r Amddiffyniad yn Llys y Goron mewn perthynas â thraddodi i ddedfryd, apeliadau yn erbyn dedfryd, ceisiadau am fechnïaeth, dedfrydu, crybwylliadau, ceisiadau i ddirymu dyddiadau treial, ceisiadau deddf elw troseddau a gwrandawiadau paratoi plediadau a threialon yn Llys y Goron Abertawe, Merthyr Tudful a Chanol Llundain. Cwmpasodd y rhain amrywiaeth eang o droseddau, yn amrywio o ladrad a gyrru heb y gofal a’r sylw dyladwy i achosion amgylcheddol a thrais hanesyddol.

Yn ddiweddar, cynrychiolodd Jessica Ddiffynnydd mewn treial yn y Llys Ynadon a wynebai honiadau o yrru heb y gofal a’r sylw dyladwy a arweiniodd at eu car yn bwrw i lawr gerddwraig a ddioddefodd anafiadau sylweddol. Roedd y gerddwraig mewn coma am wyth wythnos a chafodd gyfnod helaeth o adferiad. Roedd angen i Jessica groesholi’r cerddwraig ar lefel yr alcohol roedd hi wedi’i yfed a’i diogelwch ar y ffordd. Bu modd i Jessica wneud hyn yn sensitif gan gynrychioli’i chleient yn briodol ar yr un pryd mewn perthynas â’r pwyntiau oedd yn rhaid eu gwneud. At hynny, darparodd heddwas dystiolaeth arbenigol mewn perthynas â’r achos a oedd yn gofyn am groesholi cymhleth mewn ymgais i danseilio’r dystiolaeth honno.

Cyfraith sifil

Jessica represents Claimants and Defendants in respect of small claims and fast track claims. These include personal injury matters in addition to road traffic accident claims. Jessica represents clients at hearings involving applications for pre-action disclosure, stage 3 hearings, trials in respect of disputes over liability and in respect of disputes over quantum including credit hire matters and general damages. Jessica further represents both Claimants and Defendants at infant approval hearings. Jessica provides written advices in addition upon merit and quantum in such cases on a private paying and conditional fee basis following review of the papers.

Jessica represents both Claimant and Defendants in matters concerning possession, rent arrears and other debt matters. Jessica has represented clients in respect of re-determination hearings, possession hearings, applications to suspend warrants and charging orders.

Jessica has further provided written advice in respect of contract and land law disputes including law of bailment, rights of way and those between landlord and tenant.

Aelodaeth 
  • Wales and Chester Circuit
Addysg 
  • LLB. (Hons)