Sharon James

Sharon James

Galwad i’r bar: 
1995
Gray’s Inn
01792 464623
Mae’n cynnal achosion yn y Gymraeg a’r Saesneg

Ymunodd Sharon â Siambrau Angel ym 1996 ar ôl cwblhau ei thymor prawf yn Siambrau Angel. Mae Sharon yn fargyfreithwraig brofiadol sy’n arbenigo mewn cyfraith teulu.

Mae ganddi gyfoeth o brofiad yn ymestyn dros ugain mlynedd mewn achosion cyfraith gyhoeddus a phreifat cymhleth a sensitif, gwaharddebau’r Ddeddf Cyfraith Teulu a chyllid priodasol.

Meysydd ymarfer

Cyfraith teulu

Mae gan Sharon brofiad ac arbenigedd helaeth mewn achosion cyfraith gyhoeddus a phreifat cymhleth ac mae wedi ymgymryd yn llwyddiannus â sawl achos sy’n cynnwys anafiadau difrifol heb fod yn ddamweiniol (gan gynnwys ysgwyd babanod a arweiniodd at farwolaeth), anafiadau a marwolaethau hanesyddol, camdriniaeth emosiynol, esgeulustod cronig, camdriniaeth rywiol, materion iechyd meddwl, barn feddygol groes, tystiolaeth post-mortem ac achosion sy’n cynnwys cam-drin cyffuriau ac alcohol. Mae gan Sharon brofiad o achosion gofal sy’n cynnwys trefniadau troseddol cydamserol mewn perthynas â babanleiddiad, anafiadau corfforol difrifol, creulondeb i blant ac esgeulustod.

Mae gan Sharon arbenigedd mewn achosion ailgartrefu rhyngwladol a chenedlaethol ac achosion yn ymwneud â dimensiynau crefyddol a diwylliannol lle mae angen dehonglwyr ac mae angen mynd i’r afael yn sensitif â chredoau a gwerthoedd. Mae gan Sharon brofiad o Waharddebau’r Wasg yn yr Uchel Lys mewn perthynas â gosod cyfyngiadau adrodd.

Mae gan Sharon brofiad helaeth mewn anghydfodau cyswllt a phreswylio chwerw a chymhleth.

Mae Sharon wedi ymddangos ym mhob lefel o lys yn y DU gan gynnwys yr Uchel Lys a’r Llys Apêl. Mae ganddi brofiad sylweddol mewn cynrychioli rhieni, ymyrwyr, gwarcheidwaid, plant hyfedr, darpar fabwysiadwyr, gwarcheidwaid arbennig a chleientiaid diamddiffyn sy’n cyflwyno anawsterau dysgu neu anhwylderau personoliaeth neu seiciatrig. Mae hi hefyd yn cael cyfarwyddiadau gan y Cyfreithiwr Swyddogol ar ran cleientiaid gydag anawsterau gwybyddol ac/neu seiciatrig.

Mae gan Sharon ymarfer cyllid priodasol prysur a llwyddiannus ac mae ei harbenigedd yn ymestyn i achosion gwerth uchel gydag asedau sylweddol sy’n cynnwys materion ffermio/amaethyddol, cwmnïau masnachol a theuluol, pensiynau, asedau tramor, asedau cudd, materion diffyg datguddio a chyfoeth a etifeddwyd.

Achosion nodedig ac a adroddwyd arnynt:

  • Parthed A ( Plentyn dan oed) [1997] Cyfraith Teulu 456

  • Dinas a Sir Abertawe ac XZ ac YZ a’r Wasg, y Cyfryngau ac eraill [2014] EWHC (Teulu) 212

  • Parthed T (Caniatâd i wneud cais i ddirymu Gorchmynion Lleoliad: Apêl) [2014]  EWCA Civ 1369

Aelodaeth 
  • Cymdeithas Cyfraith Teulu’r Bar
  • Cylchdaith Cymru a Chaer
Addysg 
  • LL.B (Anrhydedd) Prifysgol Caerdydd
  • LLM, Prifysgol Bryste