Alison Donovan

Alison Donovan

Galwad i’r bar: 
1987
Y Deml Ganol
01792 464623

Ymunodd Alison â’r Siambrau ym 1991, wedi iddi ymarfer fel tenant yn Francis Taylor Building, Y Deml cyn hynny ar ôl cwblhau ei thymor prawf.

Cyn hynny, treuliodd Alison 3 blynedd yn adran cyfreithiad sifil cwmni o gyfreithwyr oedd yn delio ag ystod eang o faterion, gan gymhwyso fel cyfreithiwr ym 1986 cyn trosglwyddo i’r Bar y flwyddyn ganlynol.

Meysydd ymarfer

Cyfraith teulu

Plant

Mae Alison yn ymgymryd â phob maes gwaith yn ymwneud ag achosion cyfraith breifat a chyfraith gyhoeddus. Cynrychiola rieni, neiniau a theidiau, plant, ymyrwyr, gwarcheidwaid ac awdurdodau lleol, ac felly mae ganddi ddealltwriaeth gron o faterion a phryderon pob parti.

Cyllid

Mae Alison yn ymgymryd â phob agwedd ar achosion rhwymedi ariannol gan gynnwys hawliadau ymyrwyr. Yn ogystal, mae hi’n cynghori ac yn cynrychioli cydbreswylwyr mewn perthynas â’u hanghydfodau eiddo a hawliadau Atodlen 1 y Ddeddf Plant.

Cyfraith sifil

Mae Alison yn ymgymryd â gwaith mewn ystod eang o gyfreithiad sifil gan gynnwys anghydfodau eiddo a materion profiant cynhennus.

Aelodaeth 
  • Cymdeithas Cyfraith Teulu’r Bar
  • Cylchdaith Cymru a Chaer
Addysg 
  • M.A. (Rhydychen)