Recriwtio

Tenantiaid

Mae gennym ddiddordeb bob amser mewn clywed wrth ymarferwyr sydd wedi ennill eu plwyf a allai fod â diddordeb mewn dod yn aelod o Siambrau Angel. Dylid gwneud ceisiadau ar bapur i’n Pennaeth Siambrau, Rhys Jones. Ymdrinnir â phob cais yn gwbl gyfrinachol.

Tymor prawf

Rhennir y tymhorau prawf yn ddau gyfnod o chwe mis. Y nod yw darparu tymor prawf crwn a chytbwys sy’n cwmpasu holl feysydd y gyfraith a wneir gan y siambrau. Ceisia strwythur y tymor prawf alluogi’r disgybl unigol i gael profiad a hyfforddiant ym meysydd cyfraith trosedd, cyfraith teulu a chyfraith gwlad cyffredinol. Lle bo’n bosibl, ystyrir dewisiadau’r disgybl unigol pan fydd cynnwys y tymor prawf yn cael ei benderfynu.

Bydd y tymor prawf yn cynnwys penodi goruchwyliwr i’r disgybl. Caiff y tymor prawf ei fonitro gan y pwyllgor tymor prawf hefyd.

Yn ystod yr ail gyfnod prawf o chwe mis, bydd y disgyblion unigol yn gallu ymgymryd â gwaith a derbyn cyfarwyddiadau lle byddant yn cael taliad amdanynt.

Mae Siambrau Angel yn rhoi £18.884 i bob disgybl yn ystod y tymor prawf o ddeuddeg mis. Rhennir hwn yn grant o £9,442 yn ystod y chwe mis cyntaf a sicrwydd enillion o £9,442 yn yr ail chwe mis. Ni fydd disgwyl i’r disgybl gyfrannu at gostau’r siambrau yn ystod y tymor prawf.

Mae Siambrau Angel yn derbyn ceisiadau am ddisgybledd fel y gwelir ar Pupillage Gateway yn www.pupillagegateway.com.

Dyfernir tymhorau prawf yn Siambrau Angel gyda’r bwriad o roi tenantiaeth. Ar ôl cwblhau tymor prawf yn llwyddiannus, ystyrir y cwestiwn tenantiaeth gan y pwyllgor tymor prawf ac aelodau’r siambrau yn unol â chyfansoddiad y siambrau.

Mae Siambrau Angel yn gweithredu polisi cyfle cyfartal mewn perthynas â phob cais.

Mini Dymhorau Prawf

Hoffai'r Siambr wahodd unrhyw un sy'n chwilio am dymor prawf byr i anfon CV ynghyd â llythyr eglurhaol at gill.heinrich@angelchambers.co.uk yn ystod y mis Rhagfyr. Dylid marcio'r ohebiaeth at sylw y Pwyllgor Tymor Prawf. Dylid cynnwys dyddiadau rydych/nad ydych ar gael.

Wedyn bydd tymhorau prawf byr yn cael eu cynnig yn y flwyddyn galendr nesaf.

Cynigir tymor prawf byr i'r rhai sydd wedi dechrau gradd yn y gyfraith neu gwrs trosi ôl-raddedig perthnasol yn unig. Rhoddir blaenoriaeth i'r rhai a all ddangos ymrwymiad i Gylchdaith Cymru a Chaer ac Abertawe. Mae Siambrau Angel yn gweithredu polisi cyfle cyfartal mewn perthynas â phob cais.

Hoffai'r Siambr wahodd unrhyw un sy'n chwilio am dymor prawf byr i anfon CV ynghyd â llythyr eglurhaol at gill.heinrich@angelchambers.co.uk yn ystod y mis Rhagfyr. Dylid marcio'r ohebiaeth at sylw Ysgrifennydd y Pwyllgor Tymor Prawf. Dylid cynnwys dyddiadau rydych/nad ydych ar gael.

Wedyn bydd tymhorau prawf byr yn cael eu cynnig yn y flwyddyn galendr nesaf.

Cynigir tymor prawf byr i'r rhai sydd wedi dechrau gradd yn y gyfraith neu gwrs trosi ôl-raddedig perthnasol yn unig. Rhoddir blaenoriaeth i'r rhai a all ddangos ymrwymiad i Gylchdaith Cymru a Chaer ac Abertawe. Mae Siambrau Angel yn gweithredu polisi cyfle cyfartal mewn perthynas â phob cais.

Cysylltu

I gael rhagor o wybodaeth am ymuno â Siambrau fel Tenant, neu i gael gwybod mwy am Dymhorau Prawf/Mini Dymhorau Prawf, cysylltwch â’r pennaeth recriwtio ar:

01792 464623

clerks@angelchambers.co.uk