Kate Smith

Kate Smith

Galwad i’r bar: 
2008
Gray’s Inn
01792 464623

Ymunodd Kate â Siambrau Angel yn 2008 ar ôl cwblhau Cwrs Galwedigaethol y Bar Caerdydd yn llwyddiannus a graddio o Brifysgol Abertawe gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yn y gyfraith.

Ar ôl cwblhau ei thymor prawf yn llwyddiannus, cymerwyd Kate fel Tenant yn y Siambrau ym mis Gorffennaf 2009 a sefydlodd ymarfer prysur ac amrywiol mewn Cyfraith Teulu’n gyflym iawn.

Meysydd ymarfer

Cyfraith teulu

Canolbwyntia ymarfer Kate ar achosion cyfraith gyhoeddus a phreifat yn ymwneud â phlant ym mhob haen o’r llys, gan gynnwys materion dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996.

 

Mae Kate wedi cynnal achosion yn ymwneud ag anafiadau i blant, honiadau o gam-drin rhywiol sy’n cynnwys achwynwyr ar ffurf oedolion a phlant ac mae wedi gweithredu dros Awdurdodau Lleol, rhieni, plant, aelodau estynedig o’r teulu ac ymyrwyr o fewn yr achosion hynny.

Yn ogystal, mae Kate wedi ymgymryd â gwaith yn yr Uchel Lys yn ymwneud â cheisiadau i dynnu plant i ffwrdd yn barhaol o awdurdodaeth Cymru a Lloegr ac i Wledydd Confensiwn Hague a Gwledydd Confensiwn Heb fod yn Hague.

Derbynia Kate gyfarwyddiadau’n gyson mewn perthynas â materion ariannol a TOLATA. Mae hi hefyd yn derbyn cyfarwyddiadau gan Awdurdodau Addysg a’r Llys Amddiffyn.

Mae Kate yn cadw i fyny’n gyson â materion cyfreithiol amlwg ac yn darparu seminarau DPP ynghyd ag aelodau eraill o’r tîm teulu yn Siambrau Angel.

Aelodaeth 
  • Cymdeithas Cyfraith Teulu’r Bar
  • Trysorydd Cylchdaith Cymdeithas Cyfraith Teulu’r Bar
  • Cylchdaith Cymru a Chaer
Addysg 
  • Y Gyfraith LLB Dosbarth 1af gydag Anrhydedd