Cyfraith teulu – T.O.L.A.T.A

Gall aelodau’n Tîm Teulu ddarparu cyngor a chymorth cynhwysfawr ar bob cam o anghydfodau rhwng cydberchnogion (neu ddarpar gydberchnogion) eiddo a thir boed ar gyfer Hawlwyr a Diffynyddion.

Mae ein gwasanaeth yn cynnwys cynghori (ar bapur neu mewn cynhadledd) ym mhob cam o anghydfod, drafftio ac wrth gwrs, eiriolaeth os bydd achos yn dechrau, gan gynnwys mewn gwrandawiadau cyllideb costau a gwrandawiadau ymddiddanol eraill.

Mae gan ein haelodau brofiad wrth weithio gyda chyfreithwyr a allai fod yn anghyfarwydd â’r maes hwn o’r gyfraith yn ogystal â gyda chyfreithwyr a chanddynt arbenigedd yn y maes hwn ac maen nhw’n ystyriol drwy’r amser o ganlyniadau costau’r fath anghydfodau a manteision datrys yn gynnar os ydy hynny’n bosibl.

Cynigia Siambrau Angel gyfleusterau proffesiynol a modern i chi yng nghanol datblygiad marina Abertawe ar gyfer cynadleddau, cyfarfodydd setlo ar fwrdd crwn/cynadleddau ar y cyd a fideo-gynadleddau ynghyd â lle parcio i’n cleientiaid proffesiynol a lleyg trwy gytundeb ymlaen llaw.

Gall rhai aelodau’n Tîm Teulu gynghori yn y maes hwn ar sail Mynediad Cyhoeddus neu Uniongyrchol. Cysylltwch â Marc Baker, y clerc teulu os hoffech drafod hyn.

Bargyfreithwyr

Cyfraith teulu – T.O.L.A.T.A

Alison Donovan
Alison Donovan
Galwad i’r bar: 1987 | Y Deml Ganol
Meysydd ymarfer
  • Cyfraith sifil
  • Cyfraith teulu
Dominic Boothroyd
Dominic Boothroyd
Galwad i’r bar: 1991 | Y Deml Fewnol
Meysydd ymarfer
  • Cyfraith sifil
  • Cyfraith teulu
Cennydd Richards
Cennydd Richards
Galwad i’r bar: 1999 | Gray’s Inn
Meysydd ymarfer
  • Cyfraith teulu
Mae’n cynnal achosion yn y Gymraeg a’r Saesneg
Lucy Leader
Lucy Leader
Galwad i’r bar: 2002 | Lincoln’s Inn
Meysydd ymarfer
  • Cyfraith sifil
  • Cyfraith teulu
Simon Stephenson
Simon Stephenson
Galwad i’r bar: 2005 | Y Deml Fewnol
Meysydd ymarfer
  • Cyfraith teulu
Iain Alba
Galwad i’r bar: 2006 | Y Deml Fewnol
Meysydd ymarfer
  • Cyfraith teulu
Kate Smith
Kate Smith
Galwad i’r bar: 2008 | Gray’s Inn
Meysydd ymarfer
  • Cyfraith teulu