Cyfraith teulu
Plant Preifat
Mae David yn cynrychioli Ymgeiswyr ac Ymatebwyr gerbron pob lefel o’r Farnwriaeth yn y Llys Sirol.
Mae David yn gweithredu mewn ystod helaeth o wrandawiadau mewn perthynas â cheisiadau am Orchmynion Trefniadau Plant, gan gynnwys cymodi, gwrandawiadau canfod ffeithiau a gwrandawiadau terfynol.
Yn aml iawn, mae David yn cynrychioli rhieni sy’n honni neu sy’n cael eu cyhuddo o drais yn y cartref. Mae wedi ymdrin hefyd ag amryw faterion o fewn cyfraith y teulu, gan gynnwys ymddieithrio wrth rieni, symud allanol a gorchmynion gwarchodaeth arbennig.
Yn ogystal, mae David wedi gwneud ac wedi ymateb i geisiadau am orchmynion dim molestu a meddiannu.
Plant Cyhoeddus
Mae David yn cynrychioli rhieni mewn ystod o faterion cyfraith gyhoeddus gan gynnwys ceisiadau am orchymyn gofal interim, gwrandawiadau rheoli achosion, ceisiadau C2, gwrandawiadau penderfynu ar faterion a gwrandawiadau terfynol.
Mae David wedi ymddangos gerbron pob lefel o’r Farnwriaeth ac wedi ymdrin â materion gan gynnwys trothwy, anafiadau heb fod yn ddamweiniol a phryderon mewn perthynas â chynlluniau gofal terfynol.
Cyfraith trosedd
Caiff David gyfarwyddyd i’r erlyniad a’r amddiffyniad yn Llysoedd y Goron, Ynadon ac Ieuenctid.
Mae David wedi amddiffyn yn y Llys Ynadon mewn materion sy’n cynnwys meddu ar ddrylliau, torri gorchymyn atal a meddu ar arf ymosodol.
Yn ogystal, mae David wedi cynnal erlyniadau ar ran yr Awdurdod Lleol.
Cyfraith sifil
Mae David yn cynrychioli Hawlwyr a Diffynyddion mewn mân hawliadau a hawliadau llwybr cyflym. Mae’r rhain yn cynnwys materion fel anafiadau personol, mân hawliadau a llogi credyd.
Mae David wedi gweithredu mewn Gwrandawiadau Cymeradwyaeth i Fabanod ac wedi darparu cyngor ysgrifenedig mewn perthynas â gwrandawiadau o’r un fath. Mae wedi cael cyfarwyddyd hefyd i ddrafftio ystod o ddogfennau, gan gynnwys manylion hawliad mewn perthynas ag aflonyddwch.